Ymateb Rhun i adroddiad Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru ar Ysbyty Penrhos Stanley

Dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Mae hyn yn amlwg yn adroddiad pryderus a fydd yn achosi gofid i gleifion a’u teuluoedd, yn ogystal a’r staff ymroddedig sy’n gweithio yn Ysbyty Penrhos Stanley.

“Rydw i wedi ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd a byddaf yn aros mewn cyswllt agos gyda nhw i wneud yn siŵr fod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i ymateb i’r pryderon difrifol sy’n cael eu codi yn yr adroddiad.

“Mae Penrhos Stanley yn ran hanfodol o’r ddarpariaeth gofal ar Ynys Môn. Credaf ei fod wedi cael ei dan-ddefnyddio ac mae cau wardiau yn ddiweddar wedi bod yn brawf o’r pwysau mae’r ysbyty wedi eu wynebu. Rhaid i ni wneud yn siŵr fod y rhybudd o’r adroddiad yma yn gallu arwain at fuddsoddiad ar gyfer y dyfodol.

“Bydd cynllun Plaid Cymru i hyfforddi a recriwtio 1000 o ddoctoriaid a 5000 o nyrsys dros y ddegawd nesaf – gan gynnwys hyfforddi mwy yng ngogledd Cymru – yn help i liniaru rhai o’r pwysau mae’r NHS yn ei wynebu.”