Colofn Rhun i’r Holyhead and Anglesey Mail 23.11.16

Mae llawer o gyfleoedd i Aelod Cynulliad godi materion ar ran eu hetholwyr. Un o’r rheini yw yn ystod cwestiynau i Weinidogion Llywodraeth Cymru yn Siambr y Cynulliad.

Yn aml iawn, rydych chi’n gwybod cyn gofyn cwestiwn nad ydych am ddatrys mater, ond mae’n bwysig serch hynny i godi’r mater hwnnw, er mwyn ei roi ar radar y Llywodraeth. Weithiau, fodd bynnag, mae pethau’n symud ymlaen yn uniongyrchol o ganlyniad i’r cwestiynau a ofynnwyd.

Rwyf wedi codi mater band eang ar Ynys Môn nifer o weithiau, y tro diwethaf yn dilyn datganiad gan y Llywodraeth yn gynharach y mis ar olynydd y rhaglen Superfast Cymru. Tynnais sylw at y ffaith, er gwaethaf fod y Llywodraeth yn gallu cyfeirio at ystadegau da ar berfformiad cyffredinol y rhaglen cyflym iawn, yng Nghymru wledig, mae’r profiad yn aml yn wahanol i’r ystadegau.

Y gwir yw bod y llefydd hawsaf i gyrraedd atynt wedi cael eu cysylltu yn gyntaf, ac mae digon ohonynt, felly mae’r canran o’r eiddo wedi’i cysylltu yn ymddangos yn uchel iawn. Yn ardaloedd gwledig Ynys Môn, dywedais, roedd cymunedau cyfan yn dal i aros, ac mae’r profiad yma wedi bod o system sydd ddim yn gyflym, heb son am fod yn gyflym iawn.

Fel y dywedais, yr wyf wedi codi’r mater sawl gwaith, ond y tro hwn, dywedodd y Gweinidog “Iawn, gadewch i mi ddod i weld drosof fy hun.” Haleliwia! O ganlyniad, bydd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn dod i Ynys Môn yn y flwyddyn newydd, a byddaf yn ceisio creu darlun iddi o rai o’r materion cyswllt sydd yn ein hwynebu. Fe wnaf roi gwybod i chi am y canlyniadau, ond mae hyn yn enghraifft o achos lle os ydych yn dal ati i wthio, gallwch gael y Llywodraeth i wrando. Y cam nesaf yw i droi gwrando yn weithredu

Materion eraill rwyf wedi eu codi yn y Cynulliad dros yr wythnosau diwethaf ydy’r angen i helpu a chefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog, sut y gallwn sicrhau ein bod yn gallu cadw a denu gweithwyr allweddol i’r GIG o’r tu allan i’r DU ar ôl i ni adael yr UE, a pharodrwydd ein NHS ar gyfer misoedd y gaeaf. Rwyf hefyd wedi defnyddio datganiad 90 eiliad i dynnu sylw at y gwasanaeth Beiciau Gwaed newydd, lle mae gwirfoddolwyr yn cludo cynnyrch achub bywyd rhwng ysbytai i helpu i ddarparu triniaethau hanfodol, ac arbed ffortiwn i’r NHS.

Yn yr etholaeth mae wedi bod yn brysur hefyd, a hoffwn ddiolch yn arbennig i bawb a ddaeth i’r cyfarfod cyhoeddus fywiog iawn a gynhaliwyd yn Amlwch.