Rhun yn ymuno gyda galwadau Banc Bwyd lleol am ragor o wirfoddolwyr

Ymunodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth gyda gwirfoddolwyr Banc Bwyd Ynys Môn i ddysgu mwy am y gwaith mae nhw’n ei wneud ac i ategu at eu gwlwadau am fwy o worfoddolwyr a rhoddion.

Mae Banc Bwyd Ynys Môn yn dosbarthu bwyd i bob rhan o’r ynys – i rai sydd ddim yn gallu teithio i fanciau bwyd oherwydd salwch, anabledd neu methu fforddio trafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft – gyda rhai gwirfoddolwyr yn teithio hyd at 120 milltir i wneud yn siwr fod y rhai mewn angen yn derbyn bwyd ffres.

Mae nhw’n chwilio am fwy o wirfoddolwyr i helpu hefo’r dosbarthu a hefyd am roddion arian er mwyn gallu prynu bwydydd ffres fel llefrith a bara ar gyfer teuluoedd mewn angen.

Yn siarad ar ô lei ymweliad i’r Banc Bwyd yng Nghapel Elim yng Nghaergybi, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae’n sefyllfa drist fod angen banciau bwyd arnom o gwbl, a bod gymaint o al war yr ynys gan bobl a theuluoedd sydd yn aml wedi colli incwm yn sydyn oherwydd salwch neu gytundebau dim oriau, er enghraifft.

“Ond mae’n dda gwybod fod y gwasanaeth yma ar gael i’r rhai sydd ei angen o. Roedd yn agoriad llygaid cael treulio amser gyda’r gwirfoddolwyr yng Nghaergybi, sydd yn darparu bwyd i deuluoedd ym mhob rhan o’r ynys sy’n wynebu trafferthion, ac mae hi’n bwysig fod y Banciau Bwyd yn cael y gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i gefnogi eraill.

“Mae’r banc bwyd wastad yn chwilio am wirfoddolwyr newydd i helpu hefo’r gwaith, felly os fedrwch chi roi ychydig o’ch amser if od yn rhan o’r tîm ymroddedig yma, neu os fedrwch chi gynnig cymorth ariannol, yna cysylltwhc gyda nhw.”

Mae mwy o wybodaeth am y Banc Bwyd a’r manylion cyswllt ar gael ar y wefan:: https://anglesey.foodbank.org.uk/