Rhun yn gwahodd Gweinidog i Fôn i weld problemau band eang dros ei hunan

Yn ystod datganiad gan Llywodraeth Cymru ar ‘Fand Eang Cyflym Iawn – y Camau Nesaf’ ddoe, dywedodd Rhun ap Iorwerth mai i lawer o bobl Môn, doedd y gwasanaeth ddim yn gyflym heb son am fod yn gyflym iawn!

Yn siarad yn siambr y Cynulliad, dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Yn amlwg, mewn egwyddor, mae hi’n wych gweld Superfast Cymru yn symud. Yn anffodus, yr ydym i gyd yn gwybod o’n bagiau post fel Aelodau Cynulliad, i lawer gormod o’n hetholwyr, dydy Superfast Cymru ddim wedi darparu band eang cyflym ac yn sicr nid yw wedi cyflwyno unrhyw beth yn agos at fod yn gyflym iawn.

“Soniasoch am yr ychydig o ffermwyr sy’n dal heb gysylltiad band eang cyflym. Mae’n llawer mwy na dim ond rhai ffermwyr; mae’n gymunedau gwledig cyfan sydd dal heb gael eu cysylltu. Hyd yn oed pan fydd y cabinet gwyrdd yn eich pentref, efallai na fydd hyny’n golygu bod gennych gysylltiad if and eang cyflym iawn. Mae angen i ni wneud yn siŵr, ac mae hwn yn bwynt yr wyf wedi ei godi ar nifer o achlysuron yma yn y Siambr, bod cyfathrebu llawer gwell rhwng Openreach a Llywodraeth Cymru a’r cwsmeriaid hynny a chwsmeriaid posibl y dyfodol sy’n clywed dro ar ôl tro, ‘Na, dydych chi ddim yno eto, ond byddwch yn fuan’. Ond pa bryd? A allaf apelio ar y Llywodraeth i sicrhau bod unrhyw gytundebau ar ddilynwr Superfast Cymru yn cynnwys yr angen i sicrhau cyfathrebu gyda’r bobl hynny sydd yn hynod rwystredig?
 
“Felly, plis cyfathrebwch. Gwnewch yn siwr fod y cymunedau hynny sydd ei eisiau o yn cael gwybod pam ddim, beth sydd angen ei wneud er mwyn iddynt ei gael, a gwneud yn siwr fod problemau yr ydym yn ymwybodol ohoynt yn cael eu goresgyn wrth i ni symud i gam nesaf y cynllun.”

Yn ei hymateb, dywedodd y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth y byddai hi’n hapus i ddod i Ynys Môn i edrych ar y materion yma, ac ers hynny, mae Rhun wedi anfon gwahoddiad swyddogol iddi hi. Ychwanegodd Rhun:

“Edrychaf ymlaen at groesawu’r Gweinidog i Ynys Môn a gobeithiaf ei bod yn gallu gwneud hynny’n fuan er mwyn iddi gael gweld dros ei hunain y problemau sy’n ein hwynebu yma.”