Rhun yn annog cymunedau Môn i wneud ceisiadau am arian Cronfa Loteri i archwilio effaith y rhyfel

Ar ddydd Mawrth, Tachwedd 10, mynychodd Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn, ddigwyddiad yn y Senedd a gynhaliwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), i gael gwybodaeth am sut gall pobl o’u hetholaeth sicrhau arian newydd y Loteri Genedlaethol i’w helpu nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn y digwyddiad yn y Senedd, cafodd Rhun y cyfle i gyfarfod gydag aelodau o Sgowtiaid ‘Explorer’ Porthaethwy, sydd wedi derbyn cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) ar gyfer prosiect i archwilio rôl Sgowtio o amgylch y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae CDL nawr wedi clustnodi £4 miliwn ychwanegol yn 2015/16 ar gyfer cymunedau sydd am archwilio, cadw a rhannu eu hanesion a’u cysylltiadau â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae grantiau ar gael rhwng £3,000 a £10,000.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Roedd yn ddiddorol iawn clywed am yr ymchwil yr oedd Sgowtiaid Porthaethwy wedi ei wneud, ac roeddwn yn falch eu bod nhw wedi cael y cyfle i ddod i’r Senedd i rannu’r wybodaeth yr oeddent wedi ei gasglu. Mae’n bwysig ein bod yn cofio effaith y rhyfel hwn can mlynedd yn ddiweddarach. Mae digon o amser i wneud ceisiadau am arian y Loteri Genedlaethol ac rwyf yn annog unrhyw un ym Môn gyda syniad am brosiect eu hun i gysylltu â CDL.”

Dywedodd Syr Peter Luff, Cadeirydd CDL: “Mae’r galw am ariannu wrth y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau’r Rhyfel Byd Cyntaf wedi bod yn ysgubol, yn gymaint felly rydym wedi penderfynu gwneud arian ychwanegol ar gael. Mae hyn yn golygu gall pawb, yn enwedig pobl ifanc, archwilio digwyddiadau pwysig iawn y rhyfel sydd wedi siapio’r ein cenedl, Ewrop a’r byd. Mae blwyddyn nesaf yn nodi canmlwyddiant Brwydr y Somme ac os mae grwpiau eisiau cymorth am brosiectau yn 2016 mae’n rhaid iddyn nhw ddechrau meddwl am wneud ceisiadau nawr.”

Fe wnaeth y digwyddiad daflu golau ar ddim ond ychydig o’r 79 o brosiectau sy’n digwydd ar draws Cymru, diolch i fwy na £5 miliwn o fuddsoddiad gan CDL.

Am fwy o wybodaeth am sut i wneud cais am ariannu Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ewch i www.cymraeg.hlf.org.uk.