Rhun yn helpu elusen i godi ymwybyddiaeth o sgrinio ym Môn yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn

Mae Rhun ap Iorwerth, AC Ynys Môn, yn cefnogi ymgyrch Bowel Cancer UK i annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn sgrinio canser y coluddyn ac achub bywydau, fel rhan o Fis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn ym mis Ebrill.

Mae dros 900 o bobl yn marw o ganser y coluddyn bob blwyddyn yng Nghymru. Fodd bynnag, dylai hynny ddim digwydd. Mae’n bosib ei drin a gwella ohono, yn enwedig os oes diagnosis cynnar.

Mae sgrinio am ganser y coluddyn y gallu achub bywydau ond ar hyn o bryd mewn rhai ardaloedd o Gymru dim ond hanner o’r rhai sy’n derbyn prawf sy’n ei gyflawni. Mae miloedd o bobl yn colli allan ar y cyfle i ganfod canser y coluddyn yn gynnar pan mae’n haws i’w drin.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC, “Rydw i’n hapus o gael cefnogi Bowel Cancer UK ac yn falch o fod yn rhan o dîm Rygbi’r Cynulliad sydd yn codi arian dros yr elusen.

“Fel Aelod Cynulliad Ynys Môn ac Ysgrifennydd Iechyd Cysgodol, rydw i wedi ymrwymo’n llwyr i wella’r cyfraddau o bobl sy’n sgrinio am ganser y coluddyn, yn lleol ac yn genedlaethol. Rydw i’n annog f’etholwyr sydd wedi cael prawf canser y coluddyn i’w ddefnyddio fo. Sgrinio yw’r ffordd orau o gael diagnosis cynnar. Os ydych chi dros 60, cymrwch y prawf pan gyrhaeddith o drwy’r post. Os ydych hi’n ieuengach, dywedwch wrth y rheiny sydd dros 60 i’w gymryd. Mae diagnosis cynnar wir yn gallu achub bywydau.”

Dywedodd Deborah Alsina, Prif Weithredwr Bowel Cancer UK, “Hoffwn ddiolch i Rhun ap Iorwerth am gefnogi ein hymgyrch yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn i godi’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn sgrinio am ganser y coluddyn. Yng Nghymru, mae un o bob 13 dyn ac un ym mhob 18 merch yn cael diagnosis o ganser y coluddyn yn ystod eu bywydau ond mae’n bosib ei drin a gwella ohono, yn enwedig os oes diagnosis cynnar.”

Mae’r Rhaglen Sgrinio Canser y Coluddyn yn gallu canfos canser y coluddyn yn fuan mewn pobl gyda dim symptomau pan mae’n haws ei drin. Os ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu a rhwng 60-74, byddwch yn derbyn prawf trwy’r post bob dwy flynedd. Rydych yn gwneud y prawf yn breifat yn y cartref ac mae’n dod gyda cyfarwyddiadau manwl. Mae’r prawf yn chwilio am waed cuddiedig yn eich moch, a allai fod yn arwydd cynnar o ganser y coluddyn.

I ddarganfod mwy, ewch i wefan Bowel Cancer UK: bowelcanceruk.org.uk.