Rhun yn canmol Sefydliadau Digartrefedd ‘aruthrol’ Ynys Môn.

Ar fore dydd Llun, fe wnaeth Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth AC gyfarfod unwaith eto gyda chynrychiolwyr o Digartref Ynys Môn, Cyngor ar Bopeth (CAB) a Gorwel i drafod y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud i helpu’r digartref ar yr ynys.

Dangosodd trafodaethau’r bore pa mor galed mae’r sefydliadau yma, a rhai eraill tebyg ar Ynys Môn yn gweithio i gynorthwyo unigolion a theuluoedd sy’n dioddef fwyaf yn ein cymunedau.

Yn dilyn cyfarfodydd cynhyrchiol gyda’r tri grŵp y bore yma, dywedodd Mr ap Iorwerth bod y gwaith maen nhw wedi’i wneud ar Ynys Môn yn aruthrol, cyn amlinellu’r heriau y maent yn eu hwynebu yn y dyfodol a sut y bydd yn ceisio bod o gymorth iddyn nhw.

“Roedd yn braf cwrdd â’r grwpiau hyn a rhai o’r bobl maen nhw wedi gweithio mor galed i’w helpu. I glywed eu straeon a’r gefnogaeth sy’n cael ei roi yma ar Ynys Môn gan grwpiau fel hyn, mae’n aruthrol bod y grwpiau yn cael effaith mor gadarnhaol ar fywydau pobl, gan ddelio âg un o’r materion mwyaf difrifol sy’n effeithio ar Gymru ar hyn o bryd, ac maent yn haeddu pob credyd am y gwaith maen nhw’n ei wneud, ac yn haeddu pob cefnogaeth.

“Ond trwy gydol y cyfarfodydd, roedd pryderon am y bygythiad o ragor doriadau i Wasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol agos, yn enwedig y bygythiad o doriadau i gyllid ‘Cefnogi Pobl’ gan Lywodraeth Cymru, heriau Credyd Cyffredinol, a’r effaith y gallai Wylfa Newydd ei gael ar atal digartrefedd yn cael ei godi’n gyson.

“Mae’n wych bod y grwpiau hyn yn cael effaith mor fawr ar fywydau pobl, ond rhaid i ni wneud popeth y gallwn i fynd i’r afael â’r bygythiadau sy’n wynebu’r grwpiau hyn, a’r unigolion y maent yn eu helpu. Nid yw gwneud mwy gyda llai a llai o arian yn gynaliadwy, ac mae’r toriadau pellach posib hyn yn peryglu dyfodol y grwpiau hyn sy’n chwarae rhan mor bwysig wrth helpu’r rheiny sy’n llai ffodus yn ein cymdeithas.

“Byddaf yn chwilio am ffyrdd o dynnu sylw at y materion hyn yn y Cynulliad i sicrhau y gall y grwpiau hyn, yn ogystal ag eraill sy’n gwneud gwaith eithriadol tebyg, barhau i wneud hynny a darparu gwasanaeth aruthrol i’r rhai sydd ei angen.”