Colofn Rhun ap Iorwerth i’r Holyhead and Anglesey Mail 06 07 16

Fel y gallwch ddychmygu, mae fy ngwaith yn cael ei ddominyddu ar hyn o bryd gan ganlyniad refferendwm yr UE. Roedd Ynys Môn wedi’i rhannu i lawr y canol, ond rydym yn gwybod beth oedd y canlyniad cyffredinol, ac efallai fod pobl yn dechrau gweld goblygiadau’r bleidlais hanesyddol yna.

Fy marn i oedd ein bod yn well fel aelod o’r UE. Llawer gwell yn achos Ynys Môn a Chymru! Rhaid i ni yn awr ddiogelu ein sefyllfa.

Mae’n rhaid i ni sicrhau, os yw Brexit yn digwydd, fod llywodraeth y DG yn rhoi’r manteision yr oeddem yn ei dderbyn gan yr UE i ni cyflwyno i ni. Roedd biliynau yn talu am bopeth o hyfforddiant swyddi i ffyrdd, prifysgolion a theatrau i gymorthdaliadau ffermio. Byddaf yn gofyn i’r Prif Weinidog yr wythnos hon am groesfan newydd dros y Fenai. Gellid bod wedi disgwyl i’r UE i gyfrannu oherwydd bod yr A55 yn ffordd Ewropeaidd pwysig. Beth sy’n digwydd i hynny yn awr?

Mae ffordd hir, anwastad, yn llawn tyllau, o’n blaenau, ond byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i helpu i’n llywio ar ei hyd.

Byddwch yn sylw fy mod wedi dweud “os yw Brexit yn digwydd”. Mae llawer yn dadlau fod natur gamarweiniol yr ymgyrchi adael yn codi amheuon am y canlyniad. Mae galwadau am gymryd gofal cyn gweithredu Erthygl 50 (sy’n dechrau’r broses o adael). Fi? Wel, mae’r canlyniad yn sefyll wrth gwrs, ond yr wyf yn sicr yn credu gan fod y rhai ohonoch a bleidleisiodd i adael ddim wedi cael gwybod dros beth oeddech chi’n pleidleisio (gan na chyhoeddwyd cynllun gadael!), dydy hi ddim ond yn deg i chi fod pawb yn cael dweud eu dweud ar dderbyn pa bynnag fargen sy’n cael ei daro, a beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd i ni.

Bydd cysylltiadau rhyngwladol Cymru yn hanfodol yn awr. Cefais fy ethol yn Gadeirydd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad y Cynulliad yr wythnos diwethaf. Byddaf yn ceisio adeiladu ein cysylltiadau â gwledydd y Gymanwlad ledled y byd. Rwyf hefyd wedi sefydlu grŵp trawsbleidiol Cymru Rhyngwladol, a fydd yn ceisio syniadau newydd ar ddatblygu lle Cymru yn y byd a’n cysylltiadau rhyngwladol masnach a diwylliannol.

Rwyf hefyd yn hoff o adeiladu cysylltiadau rhwng Ynys Môn a’r Senedd, ac mae’r ymweliadau rheolaidd gan ddisgyblion ysgol yr ynys bob amser yn bleser. Bu Ysgol y Parc, Caergybi, ac Ysgol Uwchradd Bodedern i mewn yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, ac yr wythnos hon, mae fy ymwelwyr yn dod o Ysgol Gyfun Llangefni. Mae Senedd Cymru yn perthyn i bob un ohonom, ac mae’n perthyn i genedlaethau’r dyfodol, felly mae’n wych fod perchnogion y Senedd, o bob oed, yn cael cyfle i edrych o gwmpas eu cartref!