Rhun ap Iorwerth AC yn gwisgo pinc i helpu Breast Cancer Now

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi dangos ei gefnogaeth i ferched gyda chancr y fron drwy wisgo’n binc a drwy annog ei etholwyr i fod yn rhan o ddigwyddiad codi arian ac ymwybyddiaeth gwisgo pinc ar ddydd Gwener, Hydref 23ain.

Mae gwisgo pinc, y digwyddiad codi arian pinc mwyaf ym Mhrydain, yn galw ar gefnogwyr ledled y wlad i gael gwared â’u lliwiau bob dydd a gwisgo pinc yn ei le i godi arian at waith ymchwil Breast Cancer Now sy’n help achub bywydau.

Mae Rhun ap Iorwerth wedi gwisgo pinc i geisio annog pobl ar draws Cymru i gymryd rhan, ac mae o hyd yn oed wedi troi ffenestr ei swyddfa etholaeth yn binc ar gyfer y digwyddiad!

swyddfa pinc 2015 bach

Mae prosiect gwisgo pinc, sydd nawr yn ei 14eg flwyddyn, yn codi dros £2 filiwn pob blwyddyn ar gyfer gwaith ymchwil safonol at gancr y fron. Y flwyddyn hon mae’n ôl ac yn fwy llachar nag erioed.

Gall unrhyw un gymryd rhan: yn yr ysgol, y swyddfa neu yn eich cartref. Yr unig beth sy’n ofynnol yw bod rhaid gwisgo rhywbeth pinc a rhoi faint bynnag y gallwch i’r elusen.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Erbyn hyn mae cancr y fron ar drobwynt. Pob blwyddyn mae tua 2,600 o ferched yng Nghymru yn canfod fod ganddynt gancr y fron, ac yn anffodus mae bron 600 o bobl yn colli eu bywydau i’r afiechyd. Dyna pam bod rhaid i ni ddod ynghyd i gefnogi ymchwil arloesol Breast Cancer Now ac mae prosiect gwisgo pinc yn ffordd syml a hwyl i bawb gymryd rhan.

“Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr i ferched gyda chancr y fron, heddiw ac yn y dyfodol. Rwy’n gobeithio bydd pawb yn y gymuned leol yn ymuno i wisgo’n binc ar ddydd Gwener, Hydref 23ain i gefnogi gwaith Breast Cancer Now.”

Wedi ei gychwyn ym mis Mehefin 2015 gyda’r nod i wneud yn siŵr bod neb yn marw oherwydd cancr y fron erbyn 2050, mae Breast Cancer Now yn un o elusennau cancr y fron fwyaf ym Mhrydain a chafodd ei greu drwy uno Breast Cancer Campaign a Breakthrough Breast Cancer.