AC yn holi am effaith cynlluniau ffiniau Llywodraeth y DG ar Gaergybi ac Ynys Môn

Mae AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi codi cwestiynau yn siambr y Cynulliad ynglŷn â’r effaith ar y cysylltiad Caergybi-Dulyn os oes ffin i gael ei gosod o amgylch ynys Iwerddon.

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, siaradodd Rhun ap Iorwerth am bwysigrwydd Porthladd Caergybi. Dywedodd:

“Yn fy etholaeth i, Ynys Môn, mae’r cwestiwn o ffiniau efo Iwerddon yn un o’r cwestiynau mwyaf allweddol o ran y drafodaeth am adael yr Undeb Ewropeaidd. Os oes ffin i gael ei gosod o gwmpas ynys Iwerddon, fel sy’n cael ei hawgrymu—ac mae Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon wedi dweud ei fod am gryfhau rheolaeth ffiniau ym mhorthladdoedd a meysydd awyr Iwerddon—beth yw asesiad y Prif Weinidog o effaith debygol hynny ar y man croesi pwysicaf o ran masnach rhwng Prydain ac Iwerddon, sef, yn fy etholaeth i, porthladd Caergybi?”

Yn ei ymateb, fe wnaeth y Prif Weinidog hefyd daflu dŵr oer ar gynlluniau Llywodraeth y DG i osod ffin Prydain ym mhorthladdoedd a meysydd awyr Iwerddon, gan rybuddio am nifer o broblemau gyda’r cynlluniau, a gan ddweud nad oes neb eto wedi do di fyny hefo unrhyw ffordd o ddatrys y broblem a nad yw hynny o les i drigolion Ynys Môn na Chaergybi. Fodd bynnag,dywed Plaid Cymru ei bod hi’n amser i Llafur Cymru fod yn fwy pendant a chyson.

Clip fideo o’r cwestiwn ac ateb yn y Senedd yr wythnos hon:

Yn siarad yn ddiweddarach, ychwanegodd Rhun ap Iorwerth:

“Byddai’r posibilrwydd o osod ffin galed yn yr Iwerddon ddim yn ei gwneud yn ddeniadol iawn i bobl i deithio a gwneud busnes trwy Gaergybi. Mae tua 2.1 miliwn o deithwyr yn teithio trwy Caergybi yn flynyddol yn ogystal â 500,000 o geir, a 400,000 o gerbydau cludo nwyddau. Mae Llywodraeth y DG wedi datgan ei fod eisiau gosod y ffin Brydeinig ym mhorthladdoedd a meysydd awyr Iwerddon, sy’n golygu y bydd pasio drwy borthladd Caergybi yn creu anhawster difesur i’r teithwyr a cherbydau hyn.

“Mae hyn unwaith eto yn dangos bod rhwygo Cymru a’r DG allan o’r Farchnad Sengl yn ffolineb, gan y bydd yn golygu bod ffin yr UE ym mhorthladdoedd Cymru a fydd yn cynyddu costau busnes yn sylweddol ac yn rhoi masnach a swyddi mewn perygl.

“Bydd gadael y Farchnad Sengl yn cael effaith enfawr ar swyddi yng Nghymru ac eto mae’r blaid Lafur wedi methu yn llwyr i amlinellu safbwynt cydlynol arno. Er gwaethaf cydnabod y byddai rhoi ffin galed yn Iwerddon yn creu problemau, mae’r llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi mabwysiadu dull ‘Brexit caled’ a phleidleisio i adael y Farchnad Sengl tra bod y Blaid Lafur yn ganolog wedi hyrwyddo aros yn y Farchnad Sengl.

“Mae’n amlwg mai aros yn y Farchnad Sengl sydd orau ar gyfer swyddi, masnach ac i deithwyr yng Nghymru. Bydd Plaid Cymru yn ymgyrchu dros aelodaeth o’r Farchnad Sengl oherwydd dyna beth sydd er lles gorau Cymru.”