Cyfarfod cyhoeddus i drafod effaith canlyniad y refferendwm

Llangefni, Ynys Môn – Cynhaliwyd cyfarfod gan Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth yng nghlwb rygbi Llangefni er mwyn trafod effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Brydain, Cymru, ac ar Ynys Môn. Fel AC roedd eisiau gwrando ar beth oedd gan bobl eraill i’w ddweud a beth oedd eu pryderon er mwyn iddo allu adlewyrchu hynny yn ei waith o gynhyrchiol Ynys Môn yn ei swydd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Roeddwn yn teimlo’n angerddol – ac rwy’n dal i gredu – mai bod yn yr Undeb Ewropeaidd sydd orau i ni, ond rhaid ymateb i ganlyniad y refferendwm welodd Ynys Môn yn pleidleisio fwy neu lai yn union yr un faint dros aros a gadael.

“Mae Ynys Môn, a Chymru, yn derbyn llawer mwy o arian gan yr Undeb Ewropeaidd na mae’n ei roi mewn. Yr her rŵan ydi cynnal y cyllid hwnnw. Bydd rhaid i lywodraeth y Deyrnas Unedig ddarparu’r un gynhaliaeth ariannol er mwyn gwarchod buddiannau Ynys Môn a Chymru.’

“Roedd yn amlwg o’r cyfarfod bod yna wir bryderon ynglŷn â dyfodol llawer o brosiectau, o gefnogaeth busnes, addysg uwch a phrosiectau ynni, i fuddsoddiad mewn isadeiledd, fel gwella’r A55 a chroesiad y Fenai.”

Ychwanegodd Rhun:

“Doedd dim cynllun gan y rheiny oedd yn annog pleidlais i Adael, ac yn wir dylai pobl gael cynnig pleidlais arall pan ydym yn gwybod beth yn union fydd telerau gadael. Fe fyddaf i yn gwneud fy ngorau i gael y gorau i Fôn a Chymru rŵan.”