Bu AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yr wythnos hon yn holi’r Ysgrifennydd Amgylchedd am effaith amgylcheddol cynlluniau’r Grid Cenedlaethol ar draws Ynys Môn.
Yn siarad yn y Senedd, dywedodd Rhun ap Iorwerth:
“Mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o’r penderfyniad gan y Grid Cenedlaethol i roi gwifrau mewn twnnel o dan y Fenai. Rydym yn gobeithio gweld pont newydd yn cael ei chodi i ddeuoli pont Britannia; rwy’n siŵr y byddai’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â fi y bydd yna lai o impact amgylcheddol o roi gwifrau ar y bont honno yn hytrach na chodi pont a thyrchu twnnel.
“Ond hefyd, os ydy’r grid yn mynd am opsiwn y twnnel rhag niweidio amgylchedd naturiol gweledol ardal y Fenai, onid ydy’r un peth yn wir am yr angen i warchod amgylchedd naturiol gweledol Ynys Môn drwy danddaearu ar draws yr holl ynys?”