Y Blaid yn dweud: “Cadwch eich bachau oddi ar ein GIG”

Mae Plaid Cymru wedi addo amddiffyn GIG Cymru rhag preifateiddio, gan rybuddio y bydd llywodraeth Dorïaidd gyda “gwrthblaid Lafur wan a rhanedig” yn rhydd i werthu gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys y GIG.

Bydd y blaid yn cynnal dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol yn nes ymlaen heddiw, mewn ymdrech i “anfon neges” i San Steffan “nad yw GIG Cymru ar werth.”

Llywodraeth y DG dan y Blaid Geidwadol oedd un o ychydig aelod-wladwriaethau’r UE i gefnogi’r Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsiwerydd (TTIP) dadleuol, a fuasai wedi gadael y GIG mewn perygl o breifateiddio diwrthdro. Os bydd y DG yn gadael yr Undeb Tollau o ganlyniad i Brexit, mater i’r Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, a gefnogodd TTIP, fydd llunio cytundebau masnach.

Bydd Plaid Cymru yn cynnal dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol yn nes ymlaen heddiw yn galw ar y Cynulliad i wneud y canlynol:

•cefnogi’r egwyddor o gadw Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru mewn dwylo cyhoeddus;
•mynegi pryder ynghylch preifateiddio’r Gwasanaeth Iechyd yn llechwraidd yn Lloegr dan y Torïaid
•mynnu bod yn rhaid i gytundebau masnach yn y dyfodol rhwng y Deyrnas Gyfunol a phartïon eraill, lle mae’r cytundebau hynny yn effeithio ar feysydd polisi datganoledig megis iechyd, fod yn amodol ar gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Wrth wneud sylw, dywedodd Ysgrifennydd Iechyd cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AC:

“Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yw un o lwyddiannau mwyaf Cymru, a’n dyletswydd ni fel gwleidyddion yw ei amddiffyn a’i gryfhau.

“Dylai’r GIG yn wastad fod yn nwylo’r cyhoedd a chael ei redeg er budd y cyhoedd – byth er mwyn elw yn unig.

“Gwyddom fod y Torïaid yn ysu am adael i’r sector preifat gael eu dwylo ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ac un o’r rhai mwyaf awyddus i wneud hyn yw’r gŵr fydd yn y pen draw yn llofnodi cytundebau masnach, gan agor y drws i breifateiddio.

“Methodd y Blaid Lafur yn eu dyletswydd o fod yn wrthblaid. Maent yn rhy wan a rhanedig i sefyll i fyny i’r Toriaid – yn rhy brysur yn ymosod ar eu harweinydd eu hunain i ddal y Prif Weinidog i gyfrif. Byth ers amser Tony Blair, gwelodd y GIG breifateiddio llechwraidd.

“Oni fyddwn yn gweithredu i amddiffyn ein GIG trwy gryfhau gafael Cymru, bydd ei ddyfodol yn nwylo Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan fydd yn cael rhwydd hynt gan wrthblaid Lafur wan a rhanedig.

“Dim ond Plaid Cymru all sefyll i fyny i’r Toriaid, i’w dal i gyfrif ac amddiffyn ein GIG.

“Byddwn yn gweithio gyda llywodraethau ym mhob un o wledydd y DG er mwyn sicrhau y bydd unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol sydd yn ymwneud ag ardaloedd datganoledig megis iechyd, yn gorfod cael cydsyniad pob un o Seneddau’r DG, gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”