Plaid Cymru yn mynnu gweithredu ar Forglawdd Caergybi a’r cyswllt i’r porthladd

Pwysau am drydydd croesiad hefyd yn dechrau dwyn ffrwyth – wrth i’r Prif Weinidog ddweud wrth Rhun ap Iorwerth y bydd llwybr ffafriedig yn cael ei gyhoeddi erbyn flwyddyn nesaf

Mae AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddod a’r oedi i ben gyda chwblhau’r ffordd gyswllt rhwng yr A55 a Phorthladd Caergybi. Yn siarad yn y Cynulliad heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod yr A55 wedi cael ei adeiladu i gyffiniau’r porthladd, ond nidi mewn iddo. Mae cynlluniau wedi cael eu llunio a fyddai’n gweld cerbydau’n cael mynediad at y porthladd trwy’r ffordd bresennol dros Black Bridge, ond yn gadael trwy lon gyswllt newydd ar hyd Ffordd Fictoria.

Gofynnodd Rhun hefyd am sicrwydd y byddai’r Llywodraeth yn buddsoddi yn wella’r morglawdd – hanfodol i ddyfodol hir dymor y porthladd.

Yn ei ateb, cyfeiriodd y Prif Weinidog hefyd at y trydydd croesiad ar hyd y Fenai, mater y mae Rhun wedi mynd ar ei ôl yn rheolaidd. Bydd llwybr newydd yn cael ei gyhoeddi erbyn y flwyddyn nesaf. Fe wnaeth Ieuan Wyn Jones, ymgeisydd Plaid Cymru yn Ynys Môn, wneud y penderfyniad i gomisiynu astudiaeth dichonoldeb i fewn i drydydd croesiad pan roedd yn ddirprwy Brif Weinidog Cymru a Gweinidog Trafnidiaeth rhwng 2007-11.