Cyhoeddiad NatWest yn ergyd drom i Fôn

Mae cyhoeddiad NatWest y byddent yn cau canghennau yn Amlwch, Caergybi a Phorthaethwy y flwyddyn nesaf wedi cael ei ddisgrifio gan AC Ynys Môn fel ‘ergyd drom’. Mae’r cyhoeddiad yn gadael dim ond un cangen NatWest ar Ynys Môn, ac yn hanfodol yn gadael un o drefi eraill yr ynys heb unrhyw fanc o gwbl.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC: “Dwi’n flin, ac yn teimlo bod pobl Ynys Môn yn cael eu gadael i lawr – gan NatWest a’r sector bancio yn ehangach. Mae banciau wedi cael eu rhwygo allan o’n trefi ar gyfradd syfrdanol heb unrhyw ystyriaeth o’r bobl hynny sydd wedi helpu’r banciau i wneud elw enfawr.

Ychwanegodd: “Penderfyniad HSBC i gau cangen Amlwch oedd yr ergyd arall yn ddiweddar. Mae Biwmares wedi colli’r banc olaf yn y dref a rwan mae Porthaethwy yw wynebu’r un dynged.

“Dwi hefyd yn teimlo dros y staff ymroddedig sydd wedi gweithio’n galed yn cynnig gwasanaethau bancio ardderchog.”

Mae NatWest yn dweud fod y penderfyniad yma o ganlyniad i’r symudiad tuag at fancio ar-lein, ond mae eu ffigurau eu hunain yn dangos fod tua hanner y cwsmeriaid yn Amlwch, Porthaethwy a Chaergybi ddim yn gwneud unrhyw fancio ar-lein o gwbl.

Dywedodd yr AC: “Gadewch i ni fod yn glir – mae hyn yn ymwneud â macsimeiddio elw. Ydy nifer y bobl sydd yn mynd i fewn i’r banciau yma’n? Ydy. A ydy’r banciau yn dal i wneud arian? Ydy. Dylai banciau ystyried eu hunain yn rhwydweithiau sy’n gwasanaethu’r boblogaeth yn ei chyfanrwydd yn hytrach na chosbi cwsmeriaid mewn ardaloedd gwledig gan eu bod yn canolbwyntio ar eu canghennau trefol sy’n gwneud arian.

“Dylai banciau ddod o hyd i ffordd i weithio gyda’i gilydd i barhau i ddarparu lefel ddigonol o wasanaeth, a dylai Llywodraeth gymryd pa bynnag gamau sy’n angenrheidiol i amddiffyn gwasanaethau. Mae’r Swyddfa Bost yn darparu llawer o wasanaethau, ond does dim dewis arall cynhwysfawr, yn enwedig ar gyfer cwsmeriaid busnes.”

Dywedodd Mr ap Iorwerth y byddain ceisio cyfarfod brys gyda phenaethiaid NatWest.