Cynllun gwerth biliynau o bunnoedd i uwchraddio seilwaith Cymru

Gallai llywodraeth Plaid Cymru sbrduno twf economaidd

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno buddsoddiad gwerth biliynau o bunnoedd yn seilwaith Cymru i ail-sbarduno’r economi, dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth. Dywedodd y byddai llywodraeth Plaid Cymru, os caiff ei hethol ym mis Mai, yn sbardun i dwf economaidd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth mai un o brif amcanion ei blaid yw dwyn y cyfoeth a gynhyrchir y pen yng Nghymru i fyny i gyfartaledd y DG. Ar hyn o bryd, y ffigwr – ar 71.4% o gyfartaledd y DG – yw’r isaf o unrhyw un o genhedloedd neu ranbarthau’r DG.

Yn gynharach yr wythnos hon, gosododd Rhun ap Iorwerth allan ei gynlluniau i adfywio economi Cymru, gan gynllunio i ail-sefydlu brand ADC ar gyfer corff masnachu a buddsoddi newydd, sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru newydd (CSCC), a helpu busnesau Cymru i dyfu trwy sefydlu Banc Cenedlaethol Cymru i bontio’r bwlch o £500m y flwyddyn y mae BBaCh yn ei wynebu.

Trwy CSCC, meddai, bydd Plaid Cymru yn cyflwyno rhaglen fudsoddi fawr gwerth biliynau o bunnoedd fydd yn uwchraddio’r seilwaith ffisegol a digidol yng Nghymru.

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth:

“Gall llywodraeth Plaid Cymru fod yn sbardun i dwf economaidd. Ein hamcan yn anad dim yw gwrthdroi bwlch cyrhaeddiad economaidd Cymru â gweddill y DG, sy’n lledu fwyfwy, ymhen cenhedlaeth. Does dim rheswm i Gymru fod ar ei hôl hi, ac eto mae’r cyfoeth a gynhyrchir y pen yn is nac yn unrhyw ran arall o’r DG, mae cyflogau yng Nghymru tua £100 yr wythnos yn is na chyfartaledd y DG, a diweithdra yng Nghymru yn uwch.

“Fel rhan o’n cynlluniau, bwriadwn sefydlu corff newydd, Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, corfforaeth gyhoeddus annibynnol fydd yn cynllunio, cyllido a chyflwyno’r dyheadau sydd yn y Cynllun Buddsoddi Seilwaith Cenedlaethol.

“Bydd CSCC yn codi arian yn annibynnol ar y llywodraeth, ac yn buddsoddi mewn seilwaith ffisegol a digidol. Mae’n gynllun uchelgeisiol, ond barn Plaid Cymru yw na allwn fforddio peidio uwchraddio ein seilwaith a gosod sylfeini cyfnod o dwf economaidd cyson. Rhaid i ni sicrhau’r amgylcheddau trafnidiaeth, technolegol a chyswllt i fusnesau yng Nghymru ffynnu.

“Mae’n bryd ail-gychwyn yr economi, a gall llywodraeth Plaid Cymru fod yn sbardun i’r twf economaidd y mae arnom ei angen.”