Fy llythyr i’r Prif Weinidog am ffioedd ralio

Annwyl Brif Weinidog,

Ysgrifennaf atoch ynglŷn â phryderon bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu cynyddu’n sylweddol y ffi a godir yn flynyddol ar y Motor Sports Association at ddiben caniatáu ralio ceir yng nghoedwigoedd Cymru.

Mae ralio yn gamp sydd â miloedd lawer o ddilynwyr yng Nghymru. Yn wir gellid dweud ei bod yn gamp sydd yn rhan o’r diwylliant Cymreig mewn nifer o ardaloedd. Mae llwyddiant rhai o’n gyrwyr a chyd-yrwyr, yn cynnwys y seren ddiweddaraf Elfyn Evans, yn arwydd o hynny.

Ond mae’n gamp sydd hefyd yn dod a budd economaidd sylweddol i Gymru. Adlewyrchir hynny yn y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn noddwr Wales Rally GB ers nifer o flynyddoedd bellach, ac rwyf yn cefnogi’r fenter honno. Rwyf yn eiddgar yn y dyfodol i geisio denu rhan o Rally GB i fy etholaeth. Buasai Trac Môn yn lleoliad gwych ar gyfer cymalau arbennig.

Fy mhryder i a llawer sydd wedi cysylltu â mi yw y buasai penderfyniad i gynyddu’r ffi blynyddol – ei ddyblu bron – yn niweidiol iawn i’r gamp, ac yn cau’r drws ar lawer o ddigwyddiadau ralio. Rwy’n nodi nad yw’r awdurdodau yn Lloegr na’r Alban yn bwriadu cynyddu’r ffi yn yr un modd. Rwy’n deall bod Cyfoeth Naturiol Cymru dan gyfarwyddyd i fod yn fwy ‘masnachol’ yn y modd mae’n gweithredu, ac rwy’n sylweddoli bod gwaith cynnal a chadw a thrwsio ar ffyrdd coedwig yn costio arian. Ond rwy’n deall hefyd nad oes record hanesyddol wedi ei rhannu o gostau blynyddol y math hwn o waith.

Tybed allech chi egluro i fi pa gamau gaiff eu cymryd rŵan i geisio cytuno ar ffordd ymlaen. Mae’n ymddangos yn rhyfedd fod Llywodraeth Cymru yn RHOI i’r gamp ar un llaw – drwy ei nawdd o Wales Rally GB – tra bod un o’i asiantaethau, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn tynnu i ffwrdd ar y llaw arall.

Edrychaf ymlaen am eich ymateb, ac am ddatrysiad i’r sefyllfa hon.

Yn gywir,

RHUN AP IORWERTH
Aelod Cynulliad Ynys Môn