Glanbia’n buddsoddi i barhau ar frig y cawsiau

Mae un o gyflogwyr mwyaf Ynys Môn yn rhoi buddsoddiad ychwanegol yn ei ffatri Llangefni i barhau ar flaen y gad yn ei sector.

Mae Glanbia caws yn cynhyrchu mozzarella ar gyfer rhai o gyflenwyr mwyaf y DG, a cafodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth gyfle i weld drosto’i hun y buddsoddiad sydd wedi mynd at y ffatri yn y blynyddoedd diwethaf ac i glywed y Rheolwr Gweithrediadau Geraint Evans yn esbonio’r cynlluniau diweddaraf i aros ar y blaen i weddill y maes.

Meddai Mr ap Iorwerth: “Nid yw unig fod Glanbia yn un o gyflogwyr mwyaf yr Ynys, gyda dros 150 o staff, ond mae hefyd yn gwmni sydd wedi profi ymrwymiad gwirioneddol i’r ynys. Yr wyf yn hyderus y bydd yn cynnig cyfleoedd swyddi ar Ynys Môn am flynyddoedd lawer i ddod.”

Mae’r cynlluniau diweddaraf yn anelu at gynyddu allbwn, ond mae ansawdd yn bwysicach na’r swm. Mae mozzarella o’r radd flaenaf yn golygu fod rhai o’r enwau mwyaf ym myd pizza ymhlith cleientiaid Glanbia, ond mae’r ffatri yn Llangefni hefyd yn ganolbwynt ar gyfer creadigrwydd pizza, gyda phennaeth datblygu cynnyrch Dr Anna Senn wastad yn chwilio am ffyrdd arloesol newydd o ddefnyddio’r cynnyrch.

Ychwanegodd AC Ynys Môn: “Profodd y sesiwn flasu ar ddiwedd fy ymweliad i mi mai mozzarella Môn yw’r gorau y gallwch ei gael!”