Edrychwch eto ar brofiad gwaith, medd Rhun

Yn dilyn penderfyniad Cyngor Môn i beidio cynnig profiad gwaith i ddisgyblion blwyddyn 10 a 12 eleni, mae AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru.

Mae penderfyniad y Cyngor yn deillio o benderfyniad Llywodraeth Cymru i derfynu cytundeb Gyrfa Cymru i wirio lleoliadau profiad gwaith ac mae’n ganlyniad yr oedd Pwyllgor menter a Busnes y Cynulliad (yr oedd Rhun yn Aelod ohono) wedi’i ragweld a thynnu sylw y Llywodraeth ato ar y pryd.

Dywed Rhun ap Iorwerth:

“Pan fuo ni’n cymryd tystiolaeth ar gyfer ein hadroddiad ar helpu pobl ifanc I mewn I waith, fe wnaeth cynrychiolwyr o’r byd addysg ein rhybuddio y gallai hyn ddigwydd, gan ddweud wrthym eu bod nhw’n teimlo ei fod yn argyfwng a allai roi ein plant dan anfantais.

“Rydw I felly wedi ysgrifennu at y Llywodraeth i ofyn iddi edrych eto ar y penderfyniad fel bod myfyrwyr ym Môn, ac awdurdodau lleol eraill, ddim yn colli allan ar y profiad gwerthfawr hwn.

“Mae profiad gwaith yn gyfle euraidd i fyfyrwyr ddysgu sgiliau newydd, cael blas ar fyd gwaith ac adeiladu cysylltiadau gyda cyflogwyr posib. Dwi’n gwybod o brofiad personol o gael disgyblion ar brofiad gwaith yn fy swyddfa ei fod o hefyd yn ffordd dda o adeiladu hunan-hyder y myfyrwyr hefyd.”