Dylai pob opsiwn dal i fod ar y bwrdd, meddai AC, wrth i’r Grid Cenedlaethol ymgynghori eto

Wrth i’r Grid Cenedlaethol ddechrau eu cam nesaf o ymgynghori ar drosglwyddo pŵer o orsaf bŵer niwclear Wylfa, mae Rhun ap Iorwerth AC yn addo parhau i wrthwynebu ceblau uwchben newydd ac yn galw ar bobl Môn i sefyll yn gadarn ac i siarad ag un llais clir am yr angen i chwilio am opsiynau eraill:

“Mae Ynys Môn wedi siarad yn glir ar y mater hwn ac nid ydym yn derbyn mai llinellau trydan uwchben yw’r unig opsiwn. Mae’r Grid Cenedlaethol yn cyfaddef y byddai dewis arall megis cebl tanfor yn dechnegol ymarferol, er yn heriol, ond mae’n ymddangos mai’r gost yw’r ffactor allweddol. Mae hynny’n golygu bod gofyn i bobl Ynys Môn – trwy’r effaith ar eu tirlun, gwerth eu heiddo a’r diwydiant twristiaeth lleol – sybsideiddio prisiau ynni ar gyfer gweddill y DU.

“Mewn wythnos pan fyddwn yn cofio boddi Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn i wneud cronfa ddŵr, mae pobl Ynys Môn yn cael eu gwneud i deimlo’n fwyfwy ddi-rym i ddiogelu eu cymunedau.

“Rydym wedi galw’n gyson am yr opsiwn tanfor sydd dro ar ôl tro wedi cael ei wrthod. Dylai pob opsiwn dal i fod ar y bwrdd – o dan y môr ac o dan y ddaear”.