Cynnyrch Bwyd Môn ar y Brig

Bu Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn llongyfarch cynhyrchwyr o Fôn am eu llwyddiant diweddar yng Ngwobrau Great Taste 2015, mewn digwyddiad i nodi’r gwobrau ym Mae Caerdydd yr wythnos hon.

Enillodd Melyn Môn o Laneilian ddwy seren am eu Menyn Madarch Shiitake, a Chaws Rhydydelyn a Halen Môn yn ennill seren yr un am eu Môn Las a’u Halen Môn wedi’i fygu hefo juniper.

Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Roedd hi’n wych gallu llongyfarch Melyn Môn am eu llwyddiant yng Ngwobrau Great Taste yr wythnos hon ac i wrando ar eu cynlluniau cyffroes ar gyfer y dyfodol. Roedd hi hefyd, wrth gwrs, yn bleser cal blasu’r cynnyrch llwyddiannus blasus!

“Llongyfarchiadau i Gaws Rhydydelyn, a oedd hefyd yno yn cynrychioli Môn, ac sydd yn awr wedi agor deli yng Nghaerdydd, yn cynnig blas o Ynys Môn i bobl y brifddinas.

“Mae gennym ni amrywiaeth eang o fwyd a diod o safon ar yr ynys, ac rydw i’n falch fod cynhyrchwyr lleol yn cael y cyfle, mewn digwyddiadau fel yr un yma, i hyrwyddo eu cynnyrch ac i dderbyn clod haeddiannol am eu gwaith.”

Dywedodd Julie Morgan o Melyn Môn:

“Cawsom ddiwrnod ffantastig yn y digwyddiad i Enillwyr Gwobrau Great Taste yng Nghaerdydd. Roedd diddordeb mawr yn ein gwahanol fenyn, a chawsom gyfarfod gyda phrynwyr enwog. Roedd hefyd yn dda gweld AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth a gallu rhannu gydag ef ein gweledigaeth ar gyfer cynnyrch newydd sbon….daliwch i wylio!”