Colofn Rhun yn yr Holyhead and Anglesey Mail 13 09 17

Mae cyfarfodydd dros y dyddiau diwethaf wedi fy atgoffa i mi pa mor bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gefnogaeth sydd ei hangen ar rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau. Mae arian ‘Cefnogi Pobl’ yn cyfrannu tuag at ystod eang o rwydweithiau cefnogi, ac os caiff arian ei dorri, bydd rhai o’r rheiny sydd angen help fwyaf yn teimlo’r effaith yn uniongyrchol.

Mae digartrefedd yn rhywbeth y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ddigon ffodus i’w osgoi, ond gall ein hamgylchiadau newid yn gyflym iawn, gan ein gadael ni’n agored i niwed mewn ffyrdd nad oeddem erioed yn meddwl yn bosibl. Mae llawer gormod o bobl – yn ifanc ac yn hen – yn cael eu hunain, am ba reswm bynnag, a thrwy ddim bai eu hunain, yn methu â chael to uwch eu pen.

Dyna pam mae grwpiau fel Digartref Ynys Môn a Gorwel a gyfarfûm â’r wythnos hon, yn darparu gwasanaeth hanfodol. Mae yna grwpiau eraill hefyd, rydw i wedi cyfarfod llawer ohonynt yn y gorffennol ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw eto.

Ond mae eu gwasanaethau’n costio arian, ac mae cronfeydd Cefnogi Pobl wedi dod yn asgwrn cefn llawer o’r hyn maen nhw’n ei wneud. Mae’r arian wedi’i dorri eisoes dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond ceir pwynt lle na all sefydliadau nad ydynt yn gwneud elw fel y rhain wynebu mwy o wasgfa. Byddaf yn edrych am gyfleoedd i atgoffa Llywodraeth Cymru am beryglon gwneud toriadau yn y meysydd hyn.

Byddaf hefyd yn cadw’r pwysau i wella cysylltiad ffonau symudol a band eang. Rwy’n gobeithio y bydd y rhai a ddaeth i ddigwyddiad a wnes i ei drefnu yn Cartio Mon yr wythnos diwethaf wedi cael defnydd ohono. Roedd yn gyfle i unigolion a busnesau sgwrsio’n uniongyrchol â Llywodraeth Cymru, Openreach, Vodafone ac EE am eu hanghenion a’u rhwystredigaeth. (Ac yr wyf yn ymddiheuro i’r rhai a ddaeth yno ddau ddiwrnod yn hwyr, oherwydd bod y dyddiad anghywir wedi’i argraffu mewn erthygl newyddion … ond mae fy swyddfa bob amser yn agored i chi!)

Yn olaf, uwch reolwyr Barclays oedd y diweddaraf i ddod i’m swyddfa i esbonio’r rheswm y tu ôl i’w penderfyniad i gau banc arall. Mae cau cangen Amlwch ym mis Tachwedd yn ergyd arall i’r dref. Ni allwn ni beidio, ac ni ddylem, ddod yn imiwn i’r penderfyniadau yma i gau a chodi ein hysgwyddau – a byddaf yn parhau i ddadlau gyda’r banciau mawr, fel y gwnes i gyda Barclays ar yr achlysur hwn, eu bod yn siomi eu cwsmeriaid ffyddlon.