Bwlch cyflogau o 20% yn dangos fod menywod yng Nghymru “yn cael eu dal yn ôl rhag cyrraedd eu potensial economaidd”

Cydraddoldeb yn anodd i’w gyrraedd, ond mae Plaid Cymru wedi ymrwymo iddo

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae Rhun ap Iorwerth wedi rhybuddio, heb dargedu ymdrechion, y bydd menywod o hyd yn cael eu rhwystro rhag cyrraedd eu potensial economaidd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod menywod ar gyfartaledd yn ennill bron i 20% yn llai na dynion, ac wedi eu tangynrychioli mewn sectorau twf gydag enillion uchel, a’u gorgynrychioli mewn sectorau lle mae cyflogau isel a thangyflogaeth yn gyffredin.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod cynlluniau Plaid Cymru i gynnig hyd at 30 awr o ofal plant am ddim bob wythnos yn gam pwysig o ran caniatáu i deuluoedd ryddid i weithio. Ond yn gefn i hynny, rhaid cael ymdrechion i annog menywod i bob sector o’r economi, i godi amlygrwydd menywod mewn galwedigaethau heb fod yn rhai traddodiadol a swyddi uwch, a gwella cyngor ar yrfaoedd fel bod menywod yn gweld pa lwybrau sydd ar gael iddynt.

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi Rhun ap Iorwerth:

“Dengys ymchwil mai menywod yw bron i ddwy ran o dair o’r gweithwyr ar gyflogau isel yng Nghymru. Nid diffyg gallu sy’n gyfrifol am hyn, ond diffyg cyfle. Mae’n amlwg fod amgylchiadau yn golygu bod menywod yn cael eu dal yn ôl o gyrraedd eu potensial economaidd, ac y mae’n rhaid i ni roi diwedd ar hyn.

“Gwyddom fod diffyg gofal plant fforddiadwy yn broblem fawr i deuluoedd a dyna pam fod Plaid Cymru wedi addo addysg am ddim i bob plentyn o dair oed ymlaen. Bydd hyn yn arbed £100 yr wythnos ar gyfartaledd i deuluoedd, ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt wrth chwilio am waith.

“Ond rhaid i ni hefyd fynd i’r afael â’r canfyddiad o fenywod yn y gweithle, gan chwalu’r stereoteipiau sy’n bodoli a gwneud menywod yn fwy amlwg mewn gwaith nad yw’n draddodiadol ac uwch swyddi. Rhaid i ni fynd ati i annog menywod i ddilyn gyrfaoedd mewn ardaloedd twf allweddol.

“Mae cydraddoldeb yn anodd i’w gyrraedd, ond mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i weithio tuag at y nod hwn, a herio stereoteipiau hyd nes iddynt ddiflannu.”