Annog Siopwyr Môn i brynu’n lleol y Nadolig hwn

Mae dydd Sadwrn Busnesau Bach ar Ragfyr 5ed yn gyfle i gefnogi busnesau lleol Môn, medd Aelod Cynulliad yr ynys Rhun ap Iorwerth.

Mae dydd Sadwrn Busnesau Bach yn annog siopwyr i ddewis siopau annibynnol lleol pan fo’n bosib er mwyn cefnogi gweithwyr lleol a chynorthwyo’r economi leol.

Dywed Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Mae pob £1 sy’n cael ei wario mewn siop leol yn gwerthu cynnyrch lleol yn werth dwywaith cymaint i’r economi leol a phunt sy’n cael ei wario mewn archfarchnad, felly ceisiwch gefnogi eich siopau lleol. Mae siopau’n lleol hefyd yn lleihau’r effaith amgylcheddol.

“Ein mentrau bach a chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru. Mae gan drefi Llangefni, Caergybi, Amlwch, Porthaethwy, Benllech a Biwmares yn ogystal â phentrefi fel y Fali, Cemaes a Llanfairpwll siopau annibynnol yn gwerthu cynnyrch lleol a’r Nadolig yw’r cyfle delfrydol i’w cefnogi nhw.”

Yn ogystal ag annog etholwyr i gefnogi trefi Ynys Môn y penwythnos yma, mae Rhun hefyd yn gobeithio y bydd yn hwb i Langefni wedi iddynt golli diwrnod o fasnachu oherwydd y rali adain chwith diweddar. Dywedodd Rhun ei fod o eisiau i’r penwythnos yma fod yn ddathliad o’r hyn sydd gan y dref fyrlymus i’w chynnig:

“Roedd yn siomedig iawn fod siopau Llangefni wedi gorfod cau oherwydd y rali adain chwith a drefnwyd yn y dref yn ddiweddar. Hoffwn felly wneud apêl arbennig i bobl gefnogi busnesau Llangefni penwythnos yma, ac i annog y rhai a ddaeth i’r rali’n cefnogi amrywiaeth i ddod yn ôl i’r dref i wario yn ei siopau a chaffis!”