Angen pwyso ar Grid i wrando am beilonau, medd Rhun wrth Prif Weinidog

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw, gofynnodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth i’r Prif Weinidog wthio ar y Grid i wrando ar farn y bobl, yn dilyn y bleidlais unfrydol yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf yn ffafrio rhoi ceblau dan ddaear yn hytrach na pheilonau.

Yn siarad yn y Senedd heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth AC:

“Ddydd Mercher diwethaf, mi wnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad clir iawn mae’n dymuniad democrataidd ni yma ydy y dylai’r Grid Cenedlaethol chwilio am ddulliau amgen o wneud cysylltiadau trydan newydd yng Nghymru, yn hytrach na gosod peilonau newydd ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd yma. Mae hynny’n arbennig o berthnasol i ni yn Ynys Môn, wrth gwrs, lle rydym ni yn wynebu gweld rhes newydd o beilonau yn cael eu codi yn y blynyddoedd nesaf.

“Yng ngoleuni’r ffaith bod y Cynulliad yma wedi dangos ei ewyllys democrataidd wythnos yn ôl, a wnaiff y Prif Weinidog roi ymrwymiad i gysylltu eto i bwyso ar y grid cenedlaethol ac Ofgem i’w darbwyllo nhw y dylen nhw wrando ar lais democrataidd ein Cynulliad Cenedlaethol ni ac ailystyried eu cynlluniau? Wedi’r cyfan, mae pob llais sy’n cynrychioli Ynys Môn, ar wahân i un Aelod Rhanbarthol UKIP—ac rwy’n cynnwys yn fan hyn, fi fel Aelod Cynulliad, yr Aelod Seneddol, cynghorau plwyf, cynghorau cymuned, y cyngor sir—i gyd wedi datgan ein gwrthwynebiad. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yma wedi cefnogi hynny ac mi fyddwn ni’n gwerthfawrogi cefnogaeth y Prif Weinidog i wthio ar y grid ac Ofgem i wrando.”

Yn ei ymateb, dywedodd y Prif Weinidog:

“Rydw i’n ddigon hapus, wrth gwrs, unwaith eto, i ddweud wrth y grid cenedlaethol taw hwn yw barn Senedd Cymru ac felly mae’n farn y dylen nhw ei hystyried yn fanwl.”