AC yn codi pryderon diwydiant pysgod cregyn yn y Senedd

Yr wythnos hon, bu Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn holi’r Prif Weinidog ynglŷn â chymorth i’r diwydiant pysgod cregyn yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE.

O ystyried pwysigrwydd y diwydiant i economi Cymru a’r ffaith fod nifer fawr o bysgod cregyn yn cael eu hallforio i wledydd Ewropeaidd, rhannodd Rhun ap Iorwerth bryderon y diwydaint fod gan Gymru ddim llais uniongyrchol yn y trafodaethau am adael yr UE.

Yn siarad yn y Senedd, dywedodd Rhun:

“Yn 2015, mi oedd amaethu pysgod cregyn yn werth rhyw £12 miliwn i economi Cymru. Mae o’n ddiwydiant ac yn gyflogwr pwysig yn fy etholaeth i ac mae’r gallu i werthu mewn marchnad sengl yn ddi-doll wedi bod yn gyfraniad pwysig tuag at lwyddiant y diwydiant. I roi ffigurau i chi, mae 98 y cant o gynnyrch y Bangor Mussel Producers yn cael ei allforio—rhyw 70 y cant i’r Iseldiroedd, 20 y cant i Ffrainc a 10 y cant i Iwerddon.

“A gaf i ddyfynnu gan un o arweinwyr y diwydiant yna, sydd wedi canmol rhai o’r trafodaethau sydd wedi digwydd yn fewnol yng Nghymru ers y bleidlais? Mae o’n dweud ei fod o’n ofni y gwaethaf i Gymru drwy’r ffaith na fydd gan Gymru na’r Alban na Gogledd Iwerddon lais uniongyrchol yn y trafodaethau ar adael yr Undeb Ewropeaidd. A all y Prif Weinidog, felly, ddweud wrthym ni beth fydd strategaeth Llywodraeth Cymru o hyn allan i geisio diogelu dyfodol y diwydiant pwysig yma?

Yn ei ymateb, dyweodd y Prif Weinidog fod “90 y cant o’r pysgod sydd yn cael eu dal yng Nghymru yn cael eu hallforio, felly byddai unrhyw rwystr, toll neu unrhyw fath o rwystr arall yn wael i’r rheini sy’n allforio. Rydym yn gwybod bod y farchnad yn y Deyrnas Unedig yn rhy fach i sicrhau dyfodol iddyn nhw a dyna pam mae mor bwysig i sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cadw at ei gair er mwyn sicrhau bod yna lais cryf i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ystod y trafodaethau dros y ddwy flynedd a mwy nesaf.”