Fe aeth Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth i ymweld a Holyhead and Anglesey Weightlifting and Fitness Centre (HAWFC) yr wythnos hon i ddangos ei gefnogaeth i’r gwaith sydd yn cael ei wneud yn y gymuned leol. Mae HAWFC yn cynnig hyfforddiant ffitrwydd i bobl Caergybi ag Ynys Môn ac yn ceisio hybu ffordd o fyw ffit a iach i’r gymuned leol.
Roedd yr ymweliad wedi ei drefnu gyda Chanolfan Gydweithredol Cymru fel rhan o Diwrnod Mentrau Cymunedol Cymru ar Tachwedd yr 19eg. Mae Diwrnod Mentrau Cymunedol Cymru yn rhan o Wythnos Entrepreneuriaeth Byd-Eang sydd wedi’i drefnu i godi ymwybyddiaeth o mentrau cymunedol a pwysigrwydd cefnogi busnesau lleol.
Yn dilyn ei ymweliad, dywedodd Rhun ap Iorwerth:
“Rwy’n diolch i ganolfan ffitrwydd Caergybi ag Ynys Môn am y croeso cynnes mi ges i ar fy ymweliad yr wythnos hon.
“Mae HAWFC yn enghraifft wych o fenter sy’n gwneud gymaint o waith da yn y gymuned leol. Mae mentrau cymunedol yn cryfhau’r economi ac yn helpu taclo problemau sy’n wynebu’r gymuned leol. Mae HAWFC yn annog gwahanol grwpiau i gymryd rhan mewn gweithgareddau ffitrwydd sy’n helpu trigolion Ynys Môn i fod yn fwy iach ac fwy hapus.
“Mae mentrau cymunedol fel HAWFC yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl Ynys Môn ac mae’n bwysig ein bod yn eu cefnogi.”